Cerbyd trydan batri

Cerbyd trydan batri
Mathelectric vehicle, zero-emissions vehicle, battery-powered device Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Nissan Leaf, y cerbyd trydan mwyaf poblogaidd yn 2014, gyda dros 150,000 uned wedi'u gwerthu (erbyn Tachwedd 2014).

Math o gerbyd trydan sy'n ddibynnol ar egni cemegol a storiwyd mewn batri trydan adnewyddadwy ydy cerbyd trydan batri. Defnyddir y byrfodd 'BEV' amdanynt mewn sawl iaith, byrfodd sy'n golygu battery electric vehicle. Maent yn defnyddio modur trydan a rheolydd trydan yn hytrach na pheiriant tanio mewnol sy'n ddibynnol ar betrol neu ddisl i'w yrru. Ceir hefyd gyfuniad o'r ddau dechnoleg - trydan / petrol a gelwir y math hwn yn gerbyd trydan heibrid.

Ceir sawl math o gerbyd trydan batri gan gynnwys beics, cerbydau rheilffordd, bysiau, loriau, faniau llaeth a cheir. Rhwng lansio 'Nissan Leaf' yn Rhagfyr 2010 a Rhagfyr 2014 roedd dros 600,000 o gerbydau wedi'u gwerthu ledled y byd, gyda dros eu hanner yn geir.[1][2]

Er mwyn cynyddu'r hyd y daith ar un llond batri o bwer, defnyddir y brec i greu rhagor o drydan; mae siap y cerbyd hefyd yn rheoli ei effeithiolrwydd.

  1. Jeff Cobb (2014-12-02). "Nissan Sells 150,000th Leaf In Time for Its Fourth Birthday". HybridCars.com. Cyrchwyd 2014-12-02.
  2. Tony Lewis (2014-11-26). "Renault-Nissan sell 200,000 EVs in four years". Just Auto. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-05. Cyrchwyd 2014-11-28.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search